xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
31 Ionawr 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
2 Chwefror 2024
Yn dod i rym
7 Mawrth 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
Erthyglau 34(6), 47(2)(b), 54(4)(a) a (b) a 144(6)(a) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(1);
Erthyglau 53(1)(b) a 57a(6)(a) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625 ac fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.
EUR 2017/625, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1481; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae’r term “the appropriate authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 3(2A) o EUR 2017/625.
EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641 a 2022/377. Diwygiwyd O.S. 2019/641 gan O.S. 2020/1504. Mae’r term “appropriate authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 3(19) o EUR 2002/178.