xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017, gorchymyn cydsyniad datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, yn dilyn cais a wnaed yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 2011 ar gyfer diwygiad ansylweddol o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r terfyn amser y mae rhaid cychwyn y datblygiad a awdurdodir gan y Gorchymyn o’i fewn.