xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Seilwaith, Cymru
Gwnaed
31 Ionawr 2024
Yn dod i rym
2 Chwefror 2024
Mae cais wedi ei wneud, o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008(1), i Weinidogion Cymru yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 2011(2) ar gyfer newid ansylweddol i Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017(3).
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i effaith y newid ar Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 fel y’i diwygiwyd ac maent yn fodlon nad yw’r newid yn sylweddol.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y cais, yr ymatebion i’r cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori sydd yn ofynnol gan reoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 2011, wedi penderfynu gwneud y newid a gynigir yn y cais.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(1) a (9) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
2008 p. 29. Diwygiwyd paragraff 2 gan baragraff 4 o Atodlen 8 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), gan baragraffau 1 a 72 o Atodlen 13 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), gan adran 28 o Ddeddf Seilwaith 2015 (p. 7), a chan baragraff 8(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).
O.S. 2011/2055. Gwnaed diwygiadau perthnasol i’r offeryn hwn gan O.S. 2012/635, ac O.S. 2015/760. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2017/330, fel y’i cywirwyd gan O.S. 2017/969. Gwnaed diwygiadau perthnasol i’r offeryn hwn gan O.S. 2021/1284.