2024 Rhif 112 (Cy. 26)
Cynllunio Seilwaith, Cymru

Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy (Diwygio) (Cymru) 2024

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae cais wedi ei wneud, o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 20081, i Weinidogion Cymru yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 20112 ar gyfer newid ansylweddol i Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 20173.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i effaith y newid ar Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 fel y’i diwygiwyd ac maent yn fodlon nad yw’r newid yn sylweddol.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y cais, yr ymatebion i’r cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori sydd yn ofynnol gan reoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 2011, wedi penderfynu gwneud y newid a gynigir yn y cais.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(1) a (9) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.