NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru ac amodau eraill eu cyflogaeth sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol neu eu hamser gweithio.

Mae’r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at adran 2 o ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (“y Ddogfen”). Gellir canfod y Ddogfen ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/addysgu-ac-arweinyddiaeth.

Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol, o dan adran 123(3) o Ddeddf Addysg 2002, er mwyn darparu bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2024 er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (erthygl 2).

Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Rhif 2) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1067 (Cy. 181)) (erthygl 3).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Cangen Gweithlu ac Ymgysylltu, Adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.