xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/645) (Cy. 119) (“y Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid”). Mae’n cynyddu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru o dan y Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid am wasanaethau a ddarperir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Mae hefyd yn dirymu Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Ffioedd ar gyfer Profi Diheintyddion) 1991 (O.S 1991/1168) (“Gorchymyn 1991”) o ran Cymru.
Mae erthygl 2 yn diwygio’r Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid er mwyn rhoi, yn lle’r Atodlen, Atodlen newydd sy’n darparu ar gyfer ffioedd uwch am drwyddedu mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid. Mae’r Atodlen newydd yn darparu fel a ganlyn.
(a)Mae Tabl 1 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt yn esempt o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid. Mae colofn 2 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2024. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 2 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 14% (rhesi 3, 4 a 5) a 13% (rhes 6).
(b)Mae Tabl 2 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt yn esempt o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid. Mae colofn 2 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2024. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 2 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 20% (rhes 3), 14% (rhes 4), 20% (rhes 5), 92% (rhes 6) a 44% (rhes 7).
(c)Mae Tabl 3 yn nodi ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd. Mae colofn 2 yn gymwys i ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2024. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 2 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 14% (rhesi 3 a 4) a 9% (rhesi 5 a 6).
Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn 1991 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd sy’n daladwy am brofi o dan ddeddfwriaeth nad yw mewn grym mwyach.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.