xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau Cychwyn hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30) (“Deddf 2022”).
Mae rheoliad 2 yn dwyn i rym ar 5 Medi 2023 y darpariaethau a bennir yn y rheoliad hwnnw ac yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn. Daw rhai o’r darpariaethau hynny i rym yn llawn, a daw eraill i rym at ddibenion cyfyngedig gwneud rheoliadau neu lunio a chyhoeddi dogfennau.
Mae rheoliad 3 yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n gwneud diwygiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ar 1 Hydref 2023.
Mae rheoliad 4 yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu ar 1 Ionawr 2024 (er nad yw’r darpariaethau sy’n galluogi arolygwyr cofrestredig adeiladu a chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu i ymgymryd â gweithgareddau yn dod i rym ar yr adeg hon).
Mae rheoliadau 5 a 6 yn gwneud darpariaethau trosiannol o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i’r gofynion ymgynghori yn adran 14 (ymgynghori ar reoliadau adeiladu) o Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55) (“Deddf 1984”) a diwygiadau a wnaed i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â dod i rym adran 58Y o Ddeddf Adeiladu 1984.
Mae rheoliadau 8, 9 a 10 yn gwneud darpariaethau arbed sy’n deillio o hepgor adran 106(3) o Ddeddf 1984, a pharagraffau 5 a 9 o Atodlen 1 iddi, ac amnewid paragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984.