RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 3Aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo

64

Yn Atodlen 1—

a

ym mharagraff 1(1), ym mharagraff (e) o’r diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle “paragraffau 10, 10B, 10C a 10D” rhodder “paragraffau 10, 10B a 10D ac at ddibenion paragraff 10C mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;

b

ym mharagraff 10C(1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.