RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

15

Yn yr Atodlen—

a

ym mharagraff 1(1), ym mharagraff (e) o’r diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E ac at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â phersonau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;

b

ym mharagraff 9C(1)(a)—

i

yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;

ii

yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.