RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

PENNOD 2Hepgor darpariaethau diangen

13

Yn Atodlen 1—

a

ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “aelod o deulu”—

i

ym mharagraffau (c) a (d), hepgorer “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

ii

ym mharagraff (e) yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D” rhodder “paragraff 9B”;

b

hepgorer paragraffau 2A, 3(1)(a)(iii), 9, 9A, 9BA, 9C a 9D.