Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

68.  Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “8BA,” mewnosoder “8BB,”.

69.  Yn rheoliad 16(1)(b)(iii), yn lle “neu 8D(a)” rhodder “, 8D(1)(a) neu 8D(2)(a)”.

70.  Yn Atodlen 2 —

(a)ym mharagraff 1(2)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(b)ym mharagraff 6A(1)(b)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(c)ym mharagraff 6A(2)(b)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(d)ym mharagraff 8A(1)(c)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(e)ym mharagraff 8A(1)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(f)ym mharagraff 8A(2)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(g)ar ôl paragraff 8BA mewnosoder—

8BB.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, ac

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 11(2).;

(h)yn lle paragraff 8D rhodder—

8D.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 11(2).;

(i)ym mharagraff 9A(c)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(j)ym mharagraff 9A(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(k)ym mharagraff 10A(1)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;

(l)ym mharagraff 11—

(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)A,

(b)priod neu bartner sifil A, neu

(c)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.;

(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

(d)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(e)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;

(f)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.;

(m)ym mharagraff 13(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;;

ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;.

71.  Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

“tiriogaethau tramor”Atodlen 2, paragraff 13(1)
“tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”Atodlen 2, paragraff 13(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources