- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
37. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
38. Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6BA,” mewnosoder “6BB,”.
39. Yn rheoliad 44(1), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”
40. Yn rheoliad 54, yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”
41. Yn rheoliad 62(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”
42. Yn rheoliad 69(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”
43. Yn rheoliad 80(2)(b)(iii), yn lle “neu 6D(a)” rhodder “, 6D(1)(a) neu 6D(2)(a)”.
44. Yn Atodlen 2—
(a)yn lle paragraff 1(2)(d) rhodder—
“(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—
(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)y tiriogaethau tramor.”;
(b)ym mharagraff 4A—
(i)yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—
“(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.”
(ii)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, ac”;
(c)ym mharagraff 6A(1)(c)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(d)ym mharagraff 6A(1)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(e)ym mharagraff 6A(2)(d), yn lle’r geiriau o “preswylio fel arfer” hyd at y diwedd rhodder—
“preswylio fel arfer n union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—
(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)y tiriogaethau tramor.”;
(f)ar ôl paragraff 6BA mewnosoder—
6BB.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sydd—
(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol, ac
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 9(2).”;
(g)yn lle paragraff 6D rhodder—
“6D.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,
(b)sy’n ymgymryd—
(i)â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,
(b)sydd—
(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 9(2).”;
(h)yn lle paragraff 7A(c) rhodder—
“(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, a”;
(i)ym mharagraff 8A(1), yn lle paragraff (d) rhodder—
“(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.”;
(j)ym mharagraff 9—
(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
P,
priod neu bartner sifil P, neu
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.”;
(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.”;
(k)ym mharagraff 11(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;”;
“ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;”.
45. Yn Atodlen 4, ym mharagraff 4(1)(a)(i)—
(a)yn lle “6A(2)” rhodder “6A(2)(d)(i)”;
(b)hepgorer “6BA,”.
46. Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—
| ““tiriogaethau tramor” | Atodlen 2, paragraff 11(1)” |
| ““tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” | Atodlen 2, paragraff 11(1)” |
47. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.
48. Yn rheoliad 55, yn Nhabl 7—
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Categori 1 | Byw gartref | £8,950 |
| Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £13,635 | ||
| Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £10,720 | ||
| Categori 2 | Byw gartref | £4,475 | |
| Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £6,815 | ||
| Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £5,360” |
49. Yn rheoliad 56—
(a)yn Nhabl 8—
(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Byw gartref | £9,950 |
| Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £14,635 | |
| Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £11,720” |
(b)yn Nhabl 8A—
(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Byw gartref | £4,475 |
| Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £6,815 | |
| Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £5,360” |
50. Yn rheoliad 57(7), yn Nhabl 9—
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Byw gartref | £93 |
| Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £179 | |
| Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £141” |
51. Yn rheoliad 58(2), yn Nhabl 10—
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | £7,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio” |
52. Yn rheoliad 58A(2), yn Nhabl 10A—
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | £8,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio” |
53. Yn rheoliad 63(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.
54. Yn rheoliad 72(2), yn Nhabl 11—
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | £3,322” |
55. Yn rheoliad 74, yn Nhabl 12—
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | £1,896” |
56. Yn rheoliad 76(2)—
(a)yn Nhabl 13—
(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Un plentyn dibynnol | £187 |
| Mwy nag un plentyn dibynnol | £321” |
(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.
57. Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.
58. Yn rheoliad 69(1)(c), yn lle “50%” rhodder “25%”.
59. Yn rheoliad 77—
(a)ym mharagraff (1), yn lle—
(i)“£6,159” rhodder “£6,272”;
(ii)“£8,473” rhodder “£8,629”;
(iii)“£9,632” rhodder “£9,809”;
(iv)“£10,797” rhodder “£10,996”;
(b)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Os yw cwrs presennol y myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—
25%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 25% o leiaf ond yn llai na 30%;
30%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 30% o leiaf ond yn llai na 40%;
40%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 40% o leiaf ond yn llai na 50%;
50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;
60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;
75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.”
O.S. 2018/191 (Cy. 42); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2018/813 (Cy. 164); O.S. 2020/1302 (Cy. 287); O.S. 2021/73 (Cy. 19); O.S. 2021/481 (Cy. 148); O.S. 2022/49 (Cy. 18) ac O.S. 2022/79 (Cy. 28).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: