RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
PENNOD 2Hepgor darpariaethau diangen
8
Yn rheoliad 6—
a
ym mharagraff (2)(b)(i), hepgorer “2A,”, “9A,” a “9BA, 9C, 9D,”;
b
ym mharagraff (2)(b)(ii), hepgorer “9,”;
c
ym mharagraff (2A)(a), hepgorer “9,”;
d
ym mharagraff (2B), yn lle “8A, 9B, 9BA a 9D” rhodder “8A a 9B”;
e
ym mharagraff (10E)(a)—
i
ym mharagraff (i) yn lle “(a)(iii), (iv) neu (v)” rhodder “(1)(a)(iii) neu (iv)”;
ii
ym mharagraff (ii) yn lle “3(1)(a)(iii) neu (iv)” rhodder “3(1)(a)(iv)”.
9
Yn rheoliad 15—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
b
hepgorer paragraff (2).
10
Yn rheoliad 17—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
b
hepgorer paragraff (2).
11
Yn rheoliad 20—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae” rhodder “Mae”;
b
hepgorer paragraff (3).
12
Yn rheoliad 22—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
b
hepgorer paragraff (2).
13
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “aelod o deulu”—
i
ym mharagraffau (c) a (d), hepgorer “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;
ii
ym mharagraff (e) yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D” rhodder “paragraff 9B”;
b
hepgorer paragraffau 2A, 3(1)(a)(iii), 9, 9A, 9BA, 9C a 9D.