RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 1Cyflwyniad
3
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20075 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
4
Ym mhob un o reoliadau 4(1B), 5(4), 6(5), 7(5) ac 8(4) yn lle “9B a 9BA” rhodder “9B, 9BA a 9E”.
5
Yn yr Atodlen—
a
ym mharagraff 1—
i
yn y diffiniad o “family member” yn y testun Saesneg, yn lle “aelod o deulu” rhodder “aelod o’r teulu”;
ii
yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, ym mharagraff (d), yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E neu at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
b
ym mharagraff 9C(1)(a)—
i
yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
ii
yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 3Aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
6
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9Ch(1)(a) yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.