RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2023.
Cymhwyso2
1
Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
a
rheoliadau 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56 a 57 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018);
b
rheoliadau 33, 34, 35, 36, 58 a 59 (grantiau ar gyfer dibynyddion: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018).
2
Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
a
rheoliadau 4 a 5 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: ffioedd a dyfarniadau);
b
rheoliad 6 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: ffioedd a dyfarniadau);
c
rheoliad 15 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: personau cymhwysol);
d
rheoliad 16 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: personau cymhwysol);
e
rheoliadau 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 61, 62, 63, 68, 69, 70 a 71 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: cymhwystra);
f
rheoliadau 47, 64 a 72 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: cymhwystra);
g
rheoliad 65 (diwygiad i’r trothwy rhandaliadau blynyddol: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);
h
rheoliad 66 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);
i
rheoliadau 73 a 74 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019).