- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2023.
2.—(1) Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
(a)rheoliadau 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56 a 57 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018);
(b)rheoliadau 33, 34, 35, 36, 58 a 59 (grantiau ar gyfer dibynyddion: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018).
(2) Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
(a)rheoliadau 4 a 5 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: ffioedd a dyfarniadau);
(b)rheoliad 6 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: ffioedd a dyfarniadau);
(c)rheoliad 15 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: personau cymhwysol);
(d)rheoliad 16 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: personau cymhwysol);
(e)rheoliadau 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 61, 62, 63, 68, 69, 70 a 71 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: cymhwystra);
(f)rheoliadau 47, 64 a 72 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: cymhwystra);
(g)rheoliad 65 (diwygiad i’r trothwy rhandaliadau blynyddol: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);
(h)rheoliad 66 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);
(i)rheoliadau 73 a 74 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: