NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

a

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”) (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),

b

Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau),

c

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau),

d

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (gweler Rhan 5 o’r Rheoliadau),

e

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) (gweler Rhan 6 o’r Rheoliadau),

f

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”) (gweler Rhan 7 o’r Rheoliadau), ac

g

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) (gweler Rhan 8 o’r Rheoliadau).

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cychwyn a chymhwyso’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 2 yn nodi’r rheoliadau hynny sydd i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 (gweler paragraff 1) a’r rheoliadau hynny sydd i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 (gweler paragraff 2).

Mae Rhannau 2 a 4 yn diwygio Rheoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, yn y drefn honno. Mae Pennod 2 o’r Rhannau hynny yn gwneud diwygiadau fel bod statws ffioedd cartref a statws person cymhwysol yn gymwys i fyfyrwyr sydd o diriogaethau tramor Prydeinig (“TTPau”) penodedig ac sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig. Mae Pennod 3 o’r Rhannau hynny yn gwneud diwygiadau fel bod aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn cymhwyso i gael statws ffioedd cartref a statws person cymhwysol.

Mae Pennod 2 o Ran 3 yn hepgor darpariaethau diangen yn Rheoliadau 2014.

Yn Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 fel ei gilydd, mae Pennod 2 yn darparu i bersonau sydd â statws preswylydd sefydlog wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig, ac a ddaeth i’r Deyrnas Unedig o TTPau penodedig, gymhwyso i gael cymorth penodol i fyfyrwyr (mae israddedigion yn gymwys i gael cymorth at ffioedd dysgu ond nid ydynt yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau at gostau byw). Er mwyn cymhwyso i gael cymorth, bydd angen i bersonau sy’n preswylio yn y TTPau fodloni’r gofyniad i breswylio fel arfer am dair blynedd yn y Deyrnas Unedig, yn Nhiriogaethau Dibynnol y Goron neu mewn TTPau penodedig. Gwneir darpariaeth gyfatebol hefyd ar gyfer y rheini a gwmpesir gan y cytundeb ymadael â’r UE, y Cytundeb Gwahanu â Gwladwriaethau’r AEE-EFTA a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd sydd wedi treulio rhan o’u cyfnod preswylio naill ai yn y TTPau neu yn nhiriogaethau tramor yr UE.

Yn Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 fel ei gilydd, mae Pennod 3 yn gwneud diwygiadau fel bod aelodau o deuluoedd pob person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sy’n cychwyn ar gyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 yn cymhwyso i gael cymorth i fyfyrwyr. Rhaid i’r categori hwn o berson fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd am dair blynedd cyn dechrau ei gwrs er mwyn cymhwyso i gael cymorth. Yn flaenorol, dim ond aelodau o deuluoedd gwladolion y Deyrnas Unedig a oedd yn gymwys i gael cymorth.

Mae Pennod 2 o Ran 5, Pennod 4 o Ran 6, Pennod 5 o Ran 7 a Phennod 4 o Ran 8 yn cynyddu symiau amrywiol a bennir yn Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018, y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019, yn y drefn honno.

Mae Pennod 3 o Ran 5 a Phennod 5 o Ran 6 yn diwygio Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018, yn y drefn honno, i ganiatáu i fyfyrwyr rhan-amser sy’n astudio ar ddwysedd rhwng 25% a 50% gymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion ac i gynyddu swm yr incwm a ddiystyrir wrth gyfrifo hawlogaeth i gael grantiau ar gyfer dibynyddion.

Mae Pennod 4 o Ran 7 yn diwygio’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol drwy gynyddu uchafswm y cymorth y caiff Gweinidogion Cymru ei dalu fel rhandaliad o gymorth sy’n ddyledus i fyfyriwr mewn cysylltiad ag unrhyw un flwyddyn academaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.