Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”) (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),

(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau),

(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau),

(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (gweler Rhan 5 o’r Rheoliadau),

(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) (gweler Rhan 6 o’r Rheoliadau),

(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”) (gweler Rhan 7 o’r Rheoliadau), ac

(g)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) (gweler Rhan 8 o’r Rheoliadau).

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cychwyn a chymhwyso’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 2 yn nodi’r rheoliadau hynny sydd i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 (gweler paragraff 1) a’r rheoliadau hynny sydd i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 (gweler paragraff 2).

Mae Rhannau 2 a 4 yn diwygio Rheoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, yn y drefn honno. Mae Pennod 2 o’r Rhannau hynny yn gwneud diwygiadau fel bod statws ffioedd cartref a statws person cymhwysol yn gymwys i fyfyrwyr sydd o diriogaethau tramor Prydeinig (“TTPau”) penodedig ac sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig. Mae Pennod 3 o’r Rhannau hynny yn gwneud diwygiadau fel bod aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn cymhwyso i gael statws ffioedd cartref a statws person cymhwysol.

Mae Pennod 2 o Ran 3 yn hepgor darpariaethau diangen yn Rheoliadau 2014.

Yn Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 fel ei gilydd, mae Pennod 2 yn darparu i bersonau sydd â statws preswylydd sefydlog wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig, ac a ddaeth i’r Deyrnas Unedig o TTPau penodedig, gymhwyso i gael cymorth penodol i fyfyrwyr (mae israddedigion yn gymwys i gael cymorth at ffioedd dysgu ond nid ydynt yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau at gostau byw). Er mwyn cymhwyso i gael cymorth, bydd angen i bersonau sy’n preswylio yn y TTPau fodloni’r gofyniad i breswylio fel arfer am dair blynedd yn y Deyrnas Unedig, yn Nhiriogaethau Dibynnol y Goron neu mewn TTPau penodedig. Gwneir darpariaeth gyfatebol hefyd ar gyfer y rheini a gwmpesir gan y cytundeb ymadael â’r UE, y Cytundeb Gwahanu â Gwladwriaethau’r AEE-EFTA a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd sydd wedi treulio rhan o’u cyfnod preswylio naill ai yn y TTPau neu yn nhiriogaethau tramor yr UE.

Yn Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 fel ei gilydd, mae Pennod 3 yn gwneud diwygiadau fel bod aelodau o deuluoedd pob person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sy’n cychwyn ar gyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 yn cymhwyso i gael cymorth i fyfyrwyr. Rhaid i’r categori hwn o berson fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd am dair blynedd cyn dechrau ei gwrs er mwyn cymhwyso i gael cymorth. Yn flaenorol, dim ond aelodau o deuluoedd gwladolion y Deyrnas Unedig a oedd yn gymwys i gael cymorth.

Mae Pennod 2 o Ran 5, Pennod 4 o Ran 6, Pennod 5 o Ran 7 a Phennod 4 o Ran 8 yn cynyddu symiau amrywiol a bennir yn Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018, y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019, yn y drefn honno.

Mae Pennod 3 o Ran 5 a Phennod 5 o Ran 6 yn diwygio Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018, yn y drefn honno, i ganiatáu i fyfyrwyr rhan-amser sy’n astudio ar ddwysedd rhwng 25% a 50% gymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion ac i gynyddu swm yr incwm a ddiystyrir wrth gyfrifo hawlogaeth i gael grantiau ar gyfer dibynyddion.

Mae Pennod 4 o Ran 7 yn diwygio’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol drwy gynyddu uchafswm y cymorth y caiff Gweinidogion Cymru ei dalu fel rhandaliad o gymorth sy’n ddyledus i fyfyriwr mewn cysylltiad ag unrhyw un flwyddyn academaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources