2023 Rhif 87 (Cy. 17)
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 19831 ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a), (b) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154.
RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2023.
Cymhwyso2
1
Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
a
rheoliadau 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56 a 57 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018);
b
rheoliadau 33, 34, 35, 36, 58 a 59 (grantiau ar gyfer dibynyddion: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018).
2
Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
a
rheoliadau 4 a 5 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: ffioedd a dyfarniadau);
b
rheoliad 6 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: ffioedd a dyfarniadau);
c
rheoliad 15 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: personau cymhwysol);
d
rheoliad 16 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: personau cymhwysol);
e
rheoliadau 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 61, 62, 63, 68, 69, 70 a 71 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: cymhwystra);
f
rheoliadau 47, 64 a 72 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: cymhwystra);
g
rheoliad 65 (diwygiad i’r trothwy rhandaliadau blynyddol: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);
h
rheoliad 66 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);
i
rheoliadau 73 a 74 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019).
RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 1Cyflwyniad
3
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20075 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
4
Ym mhob un o reoliadau 4(1B), 5(4), 6(5), 7(5) ac 8(4) yn lle “9B a 9BA” rhodder “9B, 9BA a 9E”.
5
Yn yr Atodlen—
a
ym mharagraff 1—
i
yn y diffiniad o “family member” yn y testun Saesneg, yn lle “aelod o deulu” rhodder “aelod o’r teulu”;
ii
yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, ym mharagraff (d), yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E neu at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
b
ym mharagraff 9C(1)(a)—
i
yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
ii
yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 3Aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
6
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9Ch(1)(a) yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.
RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
PENNOD 1Cyflwyniad
7
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 20146 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Hepgor darpariaethau diangen
8
Yn rheoliad 6—
a
ym mharagraff (2)(b)(i), hepgorer “2A,”, “9A,” a “9BA, 9C, 9D,”;
b
ym mharagraff (2)(b)(ii), hepgorer “9,”;
c
ym mharagraff (2A)(a), hepgorer “9,”;
d
ym mharagraff (2B), yn lle “8A, 9B, 9BA a 9D” rhodder “8A a 9B”;
e
ym mharagraff (10E)(a)—
i
ym mharagraff (i) yn lle “(a)(iii), (iv) neu (v)” rhodder “(1)(a)(iii) neu (iv)”;
ii
ym mharagraff (ii) yn lle “3(1)(a)(iii) neu (iv)” rhodder “3(1)(a)(iv)”.
9
Yn rheoliad 15—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
b
hepgorer paragraff (2).
10
Yn rheoliad 17—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
b
hepgorer paragraff (2).
11
Yn rheoliad 20—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae” rhodder “Mae”;
b
hepgorer paragraff (3).
12
Yn rheoliad 22—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
b
hepgorer paragraff (2).
13
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “aelod o deulu”—
i
ym mharagraffau (c) a (d), hepgorer “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;
ii
ym mharagraff (e) yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D” rhodder “paragraff 9B”;
b
hepgorer paragraffau 2A, 3(1)(a)(iii), 9, 9A, 9BA, 9C a 9D.
RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
PENNOD 1Cyflwyniad
14
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 20157 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
15
Yn yr Atodlen—
a
ym mharagraff 1(1), ym mharagraff (e) o’r diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E ac at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â phersonau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
b
ym mharagraff 9C(1)(a)—
i
yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
ii
yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 3Aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
16
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9D(1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.
RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
PENNOD 1Cyflwyniad
17
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20178 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Cymorth ariannol – codiadau
18
Yn rheoliad 16—
a
ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,295” rhodder “£4,215”;
b
ym mharagraff (3)(b), yn lle “£4,705” rhodder “£4,785”;
c
ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,220” rhodder “£2,175”;
d
ym mharagraff (4)(b), yn lle “£2,280” rhodder “£2,325”.
19
Yn rheoliad 19—
a
ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,705” rhodder “£4,785”;
b
ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,280” rhodder “£2,325”.
20
Yn rheoliad 24(3)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.
21
Yn rheoliad 26(3)—
a
yn is-baragraff (a), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”;
b
yn is-baragraff (b), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”.
22
Yn rheoliad 27—
a
ym mharagraff (7)(a), yn lle “£184” rhodder “£187”;
b
ym mharagraff (7)(b), yn lle “£315” rhodder “£321”;
c
ym mharagraff (9)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.
23
Yn rheoliad 28(2), yn lle “£1,862” rhodder “£1,896”.
24
Yn rheoliad 43—
a
ym mharagraff (2)(i), yn lle “£6,163” rhodder “£6,277”;
b
ym mharagraff (2)(ii), yn lle “£11,152” rhodder “£11,357”;
c
ym mharagraff (2)(iii), yn lle “£9,492” rhodder “£9,667”;
d
ym mharagraff (2)(iv), yn lle “£9,492” rhodder “£9,667”;
e
ym mharagraff (2)(v), yn lle “£7,961” rhodder “£8,108”;
f
ym mharagraff (3)(i), yn lle “£5,580” rhodder “£5,683”;
g
ym mharagraff (3)(ii), yn lle “£10,155” rhodder “£10,342”;
h
ym mharagraff (3)(iii), yn lle “£8,256” rhodder “£8,408”;
i
ym mharagraff (3)(iv), yn lle “£8,256” rhodder “£8,408”;
j
ym mharagraff (3)(v), yn lle “£7,375” rhodder “£7,511”.
25
Yn rheoliad 45—
a
ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “£2,926” rhodder “£2,980”;
b
ym mharagraff (1)(a)(ii), yn lle “£5,484” rhodder “£5,585”;
c
ym mharagraff (1)(a)(iii), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;
d
ym mharagraff (1)(a)(iv), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;
e
ym mharagraff (1)(a)(v), yn lle “£3,901” rhodder “£3,973”;
f
ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “£2,926” rhodder “£2,980”;
g
ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “£5,484” rhodder “£5,585”;
h
ym mharagraff (1)(b)(iii), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;
i
ym mharagraff (1)(b)(iv), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;
j
ym mharagraff (1)(b)(v), yn lle “£3,901” rhodder “£3,973”;
k
ym mharagraff (1)(c)(i), yn lle “£4,622” rhodder “£4,708”;
l
ym mharagraff (1)(c)(ii), yn lle “£8,364” rhodder “£8,518”;
m
ym mharagraff (1)(c)(iii), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;
n
ym mharagraff (1)(c)(iv), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;
o
ym mharagraff (1)(c)(v), yn lle “£5,971” rhodder “£6,081”;
p
ym mharagraff (2)(a)(i), yn lle “£2,224” rhodder “£2,265”;
q
ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “£4,194” rhodder “£4,271”;
r
ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;
s
ym mharagraff (2)(a)(iv), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;
t
ym mharagraff (2)(a)(v), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;
u
ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “£2,224” rhodder “£2,265”;
v
ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “£4,194” rhodder “£4,271”;
w
ym mharagraff (2)(b)(iii), yn lle “£3,411” rhodder “£3,474”;
x
ym mharagraff (2)(b)(iv), yn lle “£3,411” rhodder “£3,474”;
y
ym mharagraff (2)(b)(v), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;
z
ym mharagraff (2)(c)(i), yn lle “£4,185” rhodder “£4,262”;
aa
ym mharagraff (2)(c)(ii), yn lle “£7,616” rhodder “£7,757”;
bb
ym mharagraff (2)(c)(iii), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;
cc
ym mharagraff (2)(c)(iv), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;
dd
ym mharagraff (2)(c)(v), yn lle “£5,531” rhodder “£5,633”.
26
Yn rheoliad 50—
a
ym mharagraff (1)(a), yn lle “£91” rhodder “£93”;
b
ym mharagraff (1)(b), yn lle “£176” rhodder “£179”;
c
ym mharagraff (1)(c), yn lle “£192” rhodder “£196”;
d
ym mharagraff (1)(d), yn lle “£192” rhodder “£196”;
e
ym mharagraff (1)(e), yn lle “£138” rhodder “£141”.
27
Yn rheoliad 56—
a
ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,622” rhodder “£4,708”;
b
ym mharagraff (3)(b), yn lle “£8,364” rhodder “£8,518”;
c
ym mharagraff (3)(c), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;
d
ym mharagraff (3)(d), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;
e
ym mharagraff (3)(e), yn lle “£5,971” rhodder “£6,081”;
f
ym mharagraff (4)(a), yn lle “£4,185” rhodder “£4,262”;
g
ym mharagraff (4)(b), yn lle “£7,616” rhodder “£7,757”;
h
ym mharagraff (4)(c), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;
i
ym mharagraff (4)(d), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;
j
ym mharagraff (4)(e), yn lle “£5,531” rhodder “£5,633”.
28
Yn rheoliad 88(3)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.
29
Yn rheoliad 91—
a
ym mharagraff (3)(a), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”;
b
ym mharagraff (3)(b), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”.
30
Yn rheoliad 92—
a
ym mharagraff (6)(a), yn lle “£184” rhodder “£187”;
b
ym mharagraff (6)(b), yn lle “£315” rhodder “£321”;
c
ym mharagraff (8)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.
31
Yn rheoliad 93(2), yn lle “£1,862” rhodder “£1,896”.
32
Yn rheoliad 117(2)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.
PENNOD 3Grantiau ar gyfer dibynyddion
33
Yn rheoliad 29(2), yn lle—
a
“£1,159” rhodder “£1,180”;
b
“£3,473” rhodder “£3,537”;
c
“£4,632” rhodder “£4,717”;
d
“£5,797” rhodder “£5,904”.
34
Yn rheoliad 89(3), yn lle “50” rhodder “25”.
35
Yn rheoliad 94(2), yn lle—
a
“£1,159” rhodder “£1,180”;
b
“£3,473” rhodder “£3,537”;
c
“£4,632” rhodder “£4,717”;
d
“£5,797” rhodder “£5,904”.
36
Yn rheoliad 98—
a
yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, pan fo’r dwysedd astudio—
- a
yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- b
yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- c
yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- d
yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- e
yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- f
yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.
b
yn lle paragraff (5) rhodder—
5
Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, pan fo’r dwysedd astudio—
- a
yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- b
yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- c
yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- d
yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- e
yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- f
yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.
c
yn lle paragraff (7), rhodder—
7
Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, pan fo’r dwysedd astudio—
- a
yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- b
yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- c
yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- d
yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- e
yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
- f
yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.
d
ym mharagraff (9), yn lle “50” rhodder “25”.
RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
PENNOD 1Cyflwyniad
37
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20189 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
38
Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6BA,” mewnosoder “6BB,”.
39
Yn rheoliad 44(1), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”
40
Yn rheoliad 54, yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”
41
Yn rheoliad 62(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”
42
Yn rheoliad 69(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”
43
Yn rheoliad 80(2)(b)(iii), yn lle “neu 6D(a)” rhodder “, 6D(1)(a) neu 6D(2)(a)”.
44
Yn Atodlen 2—
a
yn lle paragraff 1(2)(d) rhodder—
d
mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—
i
y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
ii
y tiriogaethau tramor.
b
ym mharagraff 4A—
i
yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
i
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
ii
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.
ii
yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
i
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
ii
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, ac
c
ym mharagraff 6A(1)(c)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
d
ym mharagraff 6A(1)(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
e
ym mharagraff 6A(2)(d), yn lle’r geiriau o “preswylio fel arfer” hyd at y diwedd rhodder—
preswylio fel arfer n union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—
i
y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
ii
y tiriogaethau tramor.
f
ar ôl paragraff 6BA mewnosoder—
Categori 6BB – Personau o’r tiriogaethau tramor Prydeinig sydd wedi setlo6BB
1
Person—
a
sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
b
sydd—
i
yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
ii
yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
d
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
e
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol, ac
f
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
2
Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 9(2).
g
yn lle paragraff 6D rhodder—
6D
1
Person—
a
sydd—
i
yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu
ii
yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,
b
sy’n ymgymryd—
i
â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
ii
â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
2
Person—
a
sydd—
i
yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu
ii
yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,
b
sydd—
i
yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
ii
yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
3
Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 9(2).
h
yn lle paragraff 7A(c) rhodder—
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
i
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
ii
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, a
i
ym mharagraff 8A(1), yn lle paragraff (d) rhodder—
d
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
i
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci, neu
ii
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.
j
ym mharagraff 9—
i
yn lle is-baragraff (2) rhodder—
2
At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
- a
P,
- b
priod neu bartner sifil P, neu
- c
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.
ii
yn lle is-baragraff (3) rhodder—
3
At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
- a
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
- b
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
- c
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
- d
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
- e
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;
- f
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.
k
ym mharagraff 11(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;
ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;
45
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 4(1)(a)(i)—
a
yn lle “6A(2)” rhodder “6A(2)(d)(i)”;
b
hepgorer “6BA,”.
46
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—
“tiriogaethau tramor”
Atodlen 2, paragraff 11(1)
“tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”
Atodlen 2, paragraff 11(1)
PENNOD 3Aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
47
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 4Cymorth ariannol – codiadau
48
Yn rheoliad 55, yn Nhabl 7—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
b
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
Categori 1
Byw gartref
£8,950
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£13,635
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£10,720
Categori 2
Byw gartref
£4,475
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£6,815
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£5,360
49
Yn rheoliad 56—
a
yn Nhabl 8—
i
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
ii
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
Byw gartref
£9,950
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£14,635
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£11,720
b
yn Nhabl 8A—
i
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
ii
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
Byw gartref
£4,475
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£6,815
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£5,360
50
Yn rheoliad 57(7), yn Nhabl 9—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
b
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
Byw gartref
£93
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£179
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£141
51
Yn rheoliad 58(2), yn Nhabl 10—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
b
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
£7,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
52
Yn rheoliad 58A(2), yn Nhabl 10A—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
b
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
£8,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
53
Yn rheoliad 63(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.
54
Yn rheoliad 72(2), yn Nhabl 11—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
b
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
£3,322
55
Yn rheoliad 74, yn Nhabl 12—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
b
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
£1,896
56
Yn rheoliad 76(2)—
a
yn Nhabl 13—
i
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
ii
ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023
Un plentyn dibynnol
£187
Mwy nag un plentyn dibynnol
£321
b
ym mharagraff (4)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.
57
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.
PENNOD 5Grantiau ar gyfer dibynyddion
58
Yn rheoliad 69(1)(c), yn lle “50%” rhodder “25%”.
59
Yn rheoliad 77—
a
ym mharagraff (1), yn lle—
i
“£6,159” rhodder “£6,272”;
ii
“£8,473” rhodder “£8,629”;
iii
“£9,632” rhodder “£9,809”;
iv
“£10,797” rhodder “£10,996”;
b
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Os yw cwrs presennol y myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—
- a
25%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 25% o leiaf ond yn llai na 30%;
- b
30%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 30% o leiaf ond yn llai na 40%;
- c
40%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 40% o leiaf ond yn llai na 50%;
- d
50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;
- e
60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;
- f
75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.
RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
PENNOD 1Cyflwyniad
60
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 201810 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
61
Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “10BA,” mewnosoder “10BB,”.
62
Yn rheoliad 8(d), yn lle “neu 10D(1)(a)” rhodder “, 10D(1)(a) neu 10D(2)(a)”.
63
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); Aruba; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Mayotte; Montserrat; Polynesia Ffrengig; St Barthélemy; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); St Pierre a Miquelon; Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Wallis a Futuna; Yr Ynys Las; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaro; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;
ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Montserrat; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;
b
yn lle paragraff 1(4) rhodder—
4
At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
a
A;
b
priod neu bartner sifil A; neu
c
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.
c
yn lle paragraff 1(5) rhodder—
5
At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
a
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
b
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
c
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
d
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
e
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath; ac
f
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.
d
ym mharagraff 3(1)(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
e
ym mharagraff 7A(1)(c)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
f
ym mharagraff 8A(1)(b)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
g
ym mharagraff 10A(1)—
i
ym mharagraff (c)—
aa
hepgorer “Gibraltar,”;
bb
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
ii
ym mharagraff (d)—
aa
hepgorer “Gibraltar,”;
bb
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
h
ym mharagraff 10A(2)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
i
ar ôl paragraff 10BA mewnosoder—
10BB
1
Person—
a
sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
b
sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
d
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
e
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig; ac
f
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
2
Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 1(4).
j
yn lle paragraff 10D rhodder—
10D
1
Person—
a
sydd—
i
yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar; neu
ii
yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;
b
sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
2
Person—
a
sydd—
i
yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu
ii
yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;
b
sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Awrdal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
3
Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 1(4).
k
ym mharagraff 11A(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
l
ym mharagraff 12A—
i
yn is-baragraff (c)—
aa
hepgorer “Gibraltar,”;
bb
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
ii
yn is-baragraff (d)—
aa
hepgorer “Gibraltar,”;
bb
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
m
ym mharagraff 13A(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”.
PENNOD 3Aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
64
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 1(1), ym mharagraff (e) o’r diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle “paragraffau 10, 10B, 10C a 10D” rhodder “paragraffau 10, 10B a 10D ac at ddibenion paragraff 10C mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
b
ym mharagraff 10C(1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 4Diwygiad i’r trothwy blynyddol
65
Yn rheoliad 14(5)(a), yn lle “£10,609” rhodder “hanner cant y cant o’r swm a bennir yn rheoliad 13(1)”.
CHAPTER 5Cymorth ariannol – codiadau
66
Yn rheoliad 13—
a
ym mharagraff (1), yn lle “£27,880” rhodder “£28,395”;
b
ym mharagraff (2)(b), yn lle “£27,880” rhodder “£28,395”.
RHAN 8Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
PENNOD 1Cyflwyniad
67
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201911 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
68
Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “8BA,” mewnosoder “8BB,”.
69
Yn rheoliad 16(1)(b)(iii), yn lle “neu 8D(a)” rhodder “, 8D(1)(a) neu 8D(2)(a)”.
70
Yn Atodlen 2 —
a
ym mharagraff 1(2)(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
b
ym mharagraff 6A(1)(b)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
c
ym mharagraff 6A(2)(b)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
d
ym mharagraff 8A(1)(c)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
e
ym mharagraff 8A(1)(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
f
ym mharagraff 8A(2)(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
g
ar ôl paragraff 8BA mewnosoder—
8BB
1
Person—
a
sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
b
sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
d
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
e
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, ac
f
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
2
Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 11(2).
h
yn lle paragraff 8D rhodder—
8D
1
Person—
a
sydd—
i
yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu
ii
yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,
b
sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
2
Person—
a
sydd—
i
yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu
ii
yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,
b
sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
3
Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 11(2).
i
ym mharagraff 9A(c)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
j
ym mharagraff 9A(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
k
ym mharagraff 10A(1)(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;
l
ym mharagraff 11—
i
yn lle is-baragraff (2) rhodder—
2
At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
a
A,
b
priod neu bartner sifil A, neu
c
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.
ii
yn lle is-baragraff (3) rhodder—
3
At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
a
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
b
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
c
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
d
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
e
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;
f
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.
m
ym mharagraff 13(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;
ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;
71
Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—
“tiriogaethau tramor”
Atodlen 2, paragraff 13(1)
“tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”
Atodlen 2, paragraff 13(1)
PENNOD 3Aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
72
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.
CHAPTER 4Cymorth ariannol – codiadau
73
Yn rheoliad 31—
a
ym mharagraff (2), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”;
b
ym mharagraff (3)(b), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”.
74
Yn rheoliad 36—
a
ym mharagraff (8), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”;
b
ym mharagraff (10), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)