NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) (“y Prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) i ymwelwyr tramor.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4D o’r Prif Reoliadau, sy’n ymwneud â ffioedd ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd i unigolion sydd wedi gwneud cais hwyr am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (“y Cynllun”). Mae’r diwygiadau yn darparu na chaniateir codi ffi ar unigolion sydd wedi gwneud cais o’r fath, ond na roddwyd statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog iddynt o dan y Cynllun hwnnw, am wasanaethau gofal iechyd perthnasol a ddarperir iddynt wrth i’w cais gael ei ystyried, ac o ran unrhyw ffioedd am y gwasanaethau hynny—

Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.