NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Offeryn)
Mae’r Offeryn hwn yn diwygio Rheoliadau Arwyddion Traffig 2016 a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016, a elwir gyda’i gilydd yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 (“Offeryn 2016”). Mae’r diwygiadau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig ac maent yn ganlyniadol i Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ac yn atodol i’r Gorchymyn hwnnw, sy’n gostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr yng Nghymru o 17 Medi 2023. Mae cyfeiriad yn y nodyn hwn at Atodlen yn gyfeiriad at Atodlen i Offeryn 2016.
Mae rheoliad 3 yn galluogi defnyddio plât newydd ynghylch diogelwch ar y ffordd yn ychwanegol at yr arwyddion sy’n rhybuddio ynghylch plant ymhellach ymlaen yn mynd i’r ysgol neu oddi yno, neu’n mynd i faes chwarae neu oddi yno, neu ynghylch twmpathau ffordd. Mae hefyd yn galluogi cael plât sy’n rhybuddio ynghylch ardal tawelu traffig gydag arwydd ar gyfer twmpathau ffordd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio cymhwysiad yr arwyddion a ddefnyddir i hysbysu am fynedfa ac allanfa parth 20 mya fel na ellir eu defnyddio yng Nghymru mwyach. O ganlyniad i ostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig o 30 mya i 20 mya yng Nghymru, ni fydd parthau 20 mya yn angenrheidiol mwyach a byddant felly yn cael eu diddymu.
Mae rheoliad 5 yn galluogi defnyddio dau arwydd newydd. Bydd un arwydd yn cael ei ddefnyddio i rybuddio ynghylch diwedd ardal tawelu traffig a bydd yr arwydd arall yn cael ei ddefnyddio i rybuddio ynghylch camera cyflymder ymhellach ymlaen ac i atgoffa gyrwyr o’r terfyn cyflymder 20 mya. Ni fydd yr arwydd cyfatebol sy’n atgoffa gyrwyr o’r terfyn cyflymder 30 mya yn gymwys i Gymru mwyach er mwyn adlewyrchu’r gostyngiad i’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig.
Mae rheoliad 6 yn galluogi defnyddio arwydd newydd i rybuddio neu nodi bod terfyn cyflymder 20 mya newydd yn cychwyn. Ni fydd yr arwydd cyfatebol sy’n dynodi man cychwyn terfyn cyflymder 30 mya newydd yn gymwys i Gymru mwyach er mwyn adlewyrchu’r gostyngiad i’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig.
Mae rheoliad 9 yn gwahardd defnyddio arwyddion ategu ar ffyrdd sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder uchaf o 20 mya ac sydd â system goleuo cerbytffyrdd.
Mae rheoliad 10 yn cyfyngu ar ddefnyddio’r arwydd newydd a gyflwynir yn rheoliad 6 sy’n rhybuddio neu’n nodi bod terfyn cyflymder 20 mya newydd yn cychwyn. Ni ellir defnyddio’r arwydd ar ffordd sydd â therfyn cyflymder 20 mya a osodwyd yn ddiweddar ond yn ystod y cyfnod o 12 mis gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r terfyn cyflymder 20 mya newydd i rym.
Mae rheoliad 11 yn ddarpariaeth drosiannol ac arbedion sy’n gymwys i Offeryn 2016. Mae arwyddion a oedd yn eu lle cyn i’r Offeryn hwn ddod i rym ac a oedd yn cydymffurfio ag Offeryn 2016 fel yr oedd mewn grym cyn y diwygiadau a wneir gan yr Offeryn hwn i’w trin fel pe baent yn parhau i gydymffurfio ag Offeryn 2016. Bydd y ddarpariaeth drosiannol ac arbedion yn peidio â chael effaith ar ôl 12 mis, heblaw mewn perthynas â’r marc ffordd sy’n dynodi’r terfyn cyflymder uchaf a fydd yn peidio â chael effaith ar ôl 5 mlynedd. Ni fydd y ddarpariaeth drosiannol ac arbedion yn gymwys i’r arwydd sy’n rhybuddio ynghylch camera cyflymder ymhellach ymlaen ar ffordd a gaiff ei goleuo ac sy’n atgoffa gyrwyr o derfyn cyflymder 30 mya.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Offeryn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Offeryn hwn.
