- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—
(a)yn lle ““arolygfa ffin” (“border inspection post”)” rhodder ““safle rheoli ar y ffin” (“border control post”)”;
(b)yn lle’r diffiniad o “cynllun iechyd dofednod” rhodder—
“ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n llywodraethu allforio neu symud adar neu wyau deor i’r UE, Gogledd Iwerddon neu wledydd penodedig nad ydynt yn yr UE, a gyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 2021(2);”.
(3) Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—
2A. Os cyflawnir unrhyw weithgaredd y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys, y ffi sy’n daladwy mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw yw—
(a)pan fo’r gweithgaredd yn cael ei gyflawni fel rhan o gais, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y daw’r cais i law;
(b)fel arall, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y dechreuir y gweithgaredd.”.
(4) Yn rheoliadau 4(2)(a), (b) ac (c), 5(2)(a), 6(3), 7(2) ac 8(2), ar ôl “yng ngholofn 2” mewnosoder “neu golofn 3”.
(5) Yn rheoliad 9, ac ym mhennawd y rheoliad hwnnw, yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”.
(6) Yn Atodlen 1—
(a)yn Nhabl 1—
(i)yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 |
| 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72 |
| 41 |
| 68 |
| 95 |
| 18 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)”; |
(ii)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—
| “Colofn 3 |
|---|
| Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72 |
| 49 |
| 83 |
| 117 |
| 21 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)”; |
(b)yn lle Tabl 2 rhodder—
| Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
|---|---|---|
| Gweithgaredd | Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy | 86 | 86 |
| Cynnal arolygiadau ar gyfer gwaith sicrhau ansawdd | 688 am bob ymweliad | 1,025 am bob ymweliad |
| Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno | 44 am bob prawf | 44 am bob prawf ”; |
(c)yn Nhabl 3—
(i)yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 |
| 123 |
| 3,203 |
| 3,517”; |
(ii)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—
| “Colofn 3 |
|---|
| Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| 146 |
| 3,936 |
| 3,954”. |
(7) Yn Atodlen 2—
(a)yn Nhabl 1—
(i)yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| 82 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
| 49 |
| 62 |
| 35 |
| 61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
| 34 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)”; |
(ii)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—
| “Colofn 3 |
|---|
| Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| 108 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
| 71 |
| 67 |
| 39 |
| 67 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
| 39 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)”; |
(b)yn Nhabl 2, yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
| 86 |
| 158 am bob prawf |
| 310 am bob prawf |
| 310 am bob prawf |
| 280 am bob prawf |
| 310 am bob prawf”. |
(8) Yn y Tabl yn Atodlen 3—
(a)yng Ngholofn 1—
(i)yn y bedwaredd res yn lle “canolfan gasglu CE” rhodder “canolfan gasglu drwyddedig”;
(ii)yn y bumed res yn lle “canolfan gwarantin CE” rhodder “canolfan gwarantin drwyddedig”;
(iii)yn y chweched res—
(aa)yn lle “canolfan gasglu CE” rhodder “canolfan gasglu drwyddedig”;
(bb)yn lle “neu ganolfan storio CE” rhodder “neu ganolfan storio drwyddedig”;
(iv)yn yr wythfed res yn lle “at ddefnydd domestig neu ddefnydd y CE” rhodder “at ddefnydd domestig neu at ddefnydd masnachu ag Aelod-wladwriaeth”;
(b)yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| 27 |
| 35 |
| 39 |
| 37 |
| 23 |
| 31”; |
(c)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—
| “Colofn 3 |
|---|
| Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| 33 |
| 44 |
| 48 |
| 46 |
| 28 |
| 38”. |
(9) Yn Atodlen 4, yn y Tabl—
(a)yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| 42 am bob baedd |
| 31 am bob baedd |
| 37 |
| 34 |
| 23”; |
(b)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—
| “Colofn 3 |
|---|
| Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| 53 am bob baedd |
| 38 am bob baedd |
| 46 |
| 42 |
| 28”. |
(10) Yn Atodlen 5, yn y Tabl—
(a)yn y drydedd res o Golofn 1—
(i)ar ôl y geiriau “tîm trosglwyddo embryonau buchol” mewnosoder “o dan reoliad 4 o Reoliadau 1995”;
(ii)hepgorer “storfa o dan reoliad 13 o Reoliadau 1995;”;
(iii)ar ôl y geiriau “(gan gynnwys arolygu labordy neu beidio)” mewnosoder “o dan reoliad 6 neu 7 o Reoliadau 1995”;
(b)yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| 38 |
| 13 |
| 34 |
| 23 |
| 6 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol”; |
(c)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—
| “Colofn 3 |
|---|
| Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| 47 |
| 16 |
| 42 |
| 28 |
| 7 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol”. |
(11) Yn Atodlen 6—
(a)ym mhennawd yr Atodlen honno ac ym mhennawd Tabl 1, yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”;
(b)yn lle Tabl 1 rhodder—
| “Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
| Arolygu math o anifail a gwirio dogfennau | Ffioedd (£) am bob llwyth ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
| Dofednod ac adar hela bach | 53 |
| Dofednod – mewnforion wyau rheolaidd | 53 |
| Ratidau | 53 |
| Adar caeth | 61 |
| Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac amffibiaid | 48 |
| Gwenyn | 40 |
| Cwningod a chnofilod | 44 |
| Pryfed eraill ac infertebratau | 40 |
| Ymlusgiaid | 48 |
| Anifeiliaid anwes heb ddatganiad | 63 |
| Equidae | 79 |
| Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt | 190 |
| Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall | 50 |
| Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho | 79”; |
(c)yn Nhabl 2, yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
| (2) ystyr “llwyth” yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn y safle rheoli ar y ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio.”; |
| 261 am bob llwyth(2) |
| 346 am bob llwyth(2) |
| 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad |
(d)yn Nhabl 3, yn lle Colofn 2 rhodder—
| “Colofn 2 |
|---|
| Ffi am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
| 21 |
| 28 |
| 14 |
| 16, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad”. |
O.S. 2018/650 (Cy. 122), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/737 (Cy. 140) ac O.S. 2022/1348 (Cy. 271).
Mae copi o lawlyfr y cynllun iechyd dofednod ar gael ar-lein ar https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1012365/phs-handbook.pdf. Gellir cael copi caled o’r cynllun iechyd dofednod drwy ysgrifennu at yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn: The Animal and Plant Health Agency, Poultry Health Scheme Team, Customer Service Centre – One Health, Level 1 County Hall, Spetchley Road, Worcester WR5 2NP neu drwy anfon e-bost i CSCOneHealthPHS@apha.gov.uk.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: