Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018
2.—(1) Mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “Rheoliad Rheolaeth yr UE” mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(2);”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE” rhodder “Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
(b)ym mharagraff (3), ar ôl “Rheoliad Rheolaeth yr UE” mewnosoder “neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.
(4) Hepgorer rheoliad 5.
(5) Yn yr Atodlen—
(a)yn Nhabl 1, yn lle’r ail a’r drydedd golofn rhodder—
| “Colofn 2 | Colofn 3 |
|---|---|
| Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 |
| 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72 | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72 |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
| 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
| 21 am bob anfoneb | 21 am bob anfoneb |
| 2,134.50 | 2,484 |
| 1,147 | 1,343 |
| 1,147 | 1,343 |
| 586 | 687 |
| 586 | 687 |
| 476 | 557 |
| 476 | 557”; |
(b)yn Nhabl 2—
(i)ym mhennawd y tabl, yn lle “Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE” rhodder “Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
(ii)yn y golofn gyntaf, yn lle “Reoliad Rheolaeth yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
(iii)yn lle’r ail a’r drydedd golofn rhodder—
| “Colofn 2 | Colofn 3 |
|---|---|
| Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 |
| 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
| 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
| 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
| 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
| 188 am bob ymweliad | 219 am bob ymweliad |
| 752 y flwyddyn | 876 y flwyddyn |
| 2,256 y flwyddyn | 2,628 y flwyddyn”. |
EUR 2017/625 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1481, O.S. 2022/621, O.S. 2022/846, O.S. 2022/1090 ac O.S. 2022/1315.
