NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/646 (Cy. 120)) (“y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid”) a Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/650 (Cy. 122)) (“y Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid”) (gyda’i gilydd, “Rheoliadau 2018”). Mae’r diwygiadau’n addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2018 ar gyfer gwasanaethau a ddarperir ym maes iechyd anifeiliaid gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i adlewyrchu swm adennill cost lawn y gwasanaethau hynny.
Mae rheoliad 2(4) yn diwygio’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid i ddirymu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddogfennau adnabod gwag a gwasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â darparu dogfennau adnabod pasbortau anifeiliaid anwes.
Mae rheoliad 2(5) yn diwygio’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Cynyddir y ffioedd, pan gynyddir hwy, yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 41%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.
Mae rheoliad 3(6) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â rheolaethau salmonela. Cynyddir y ffioedd, pan gynyddir hwy, yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 53%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.
Mae rheoliad 3(7) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 21%, o’r ffioedd presennol. Mae rheoliad 3(7)(a) yn cynyddu ffioedd penodol y cynllun iechyd dofednod mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny. Mae rheoliad 3(7)(b) yn cynyddu gweddill ffioedd penodedig y cynllun iechyd dofednod mewn un cam, ac mae’r cynnydd yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny.
Mae rheoliad 3(8) i (10) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â rheolaethau bridio artiffisial. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 65%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.
Mae rheoliad 3(11) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â safleoedd rheoli ar y ffin. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 34%, o’r ffioedd presennol mewn un cam, ac mae’r cynnydd yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2018.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
