NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o awdurdodau Cymreig perthnasol yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ganlyniad i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, sy’n diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn creu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.