2023 Rhif 72 (Cy. 13)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u cymeradwyir drwy benderfyniad gan Senedd Cymru (ar yr amod y cymeradwyir y Rheoliadau hyn cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023, neu cyn 1 Mawrth 2023, pa un bynnag sydd gynharaf).

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1988” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Newid i’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 20232

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023—

a

nid yw paragraff 5(5A)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn gymwys;

b

at ddiben paragraff 4B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, pennir mai 113.9 yw B.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig yn unol â’r fformiwla ym mharagraff 4B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) ar gyfer blwyddyn ariannol y mae rhaid llunio rhestrau ardrethu newydd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol honno. Mae rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 (“y flwyddyn o dan sylw”).

Mae’r fformiwla ym mharagraff 4B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn cynnwys eitemau B ac C. Eitem B yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, ac eitem C yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol sy’n dod cyn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw. Mae paragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio, diddymu neu ddatgymhwyso is-baragraffau penodol yn Atodlen 7 i Ddeddf 1988, er mwyn rhoi cyfeiriadau at fynegai arall yn lle cyfeiriadau at y mynegai prisiau defnyddwyr, neu i bennu neu ddisgrifio ffigur ar gyfer eitem B ac/neu C.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023, ac yn datgymhwyso paragraff 5(5A)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu mai’r ffigur ar gyfer eitem B yw 113.9. Effaith hyn yw bod y lluosydd ardrethu annomestig yn parhau i fod yr un ffigur â’r ffigur hwnnw a gyfrifwyd ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2020, 1 Ebrill 2021 a 1 Ebrill 2022.

Yn unol â pharagraff 5(13C) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, ni fydd y Rheoliadau hyn ond yn dod i rym os ydynt yn cael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023, neu cyn 1 Mawrth 2023 (pa un bynnag sydd gynharaf).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.