Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2023.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Banel Dyfarnu Cymru” (“legally qualified member of the Adjudication Panel for Wales”) yw person (“P”) a oedd pan y’i penodwyd i swydd ragnodedig yn bodloni’r disgrifiad a ganlyn—
(a)
roedd P yn bodloni’r amod o ran cymhwysedd ar gyfer penodiad barnwrol ar sail pum mlynedd;
(b)
roedd P yn eiriolwr neu’n gyfreithiwr yn yr Alban a chanddo bum mlynedd o wasanaeth;
(c)
roedd P yn aelod o Far Gogledd Iwerddon; neu
(d)
roedd gan P brofiad cyfreithiol a oedd yn addas ym marn Gweinidogion Cymru.
Swyddi a ragnodir mewn perthynas â phenodiad i swydd eistedd mewn ymddeoliad3.
Mae person sy’n dal neu sydd wedi dal swydd a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen (“swyddi rhagnodedig”) yn gymwys i’w benodi i’r swydd eistedd mewn ymddeoliad a restrir yn rhes gyfatebol colofn 1.
Rwyf yn cydsynio
YR ATODLENSwyddi Eistedd mewn Ymddeoliad Swyddi Barnwrol a Restrir yn Rhan 5 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a Swyddi Rhagnodedig Cyfatebol
Colofn 1: Swydd eistedd mewn ymddeoliad | Colofn 2: Swyddi rhagnodedig |
|---|---|
1. Dirprwy Gadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Cadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru Dirprwy Gadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru |
2. Aelod cyfreithiol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru Aelod cyfreithiol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru |
3. Aelod cyfreithiol o Bwyllgor Asesu Rhenti Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Pwyllgor Asesu Rhenti Cymru Is-lywydd Pwyllgor Asesu Rhenti Cymru Aelod o’r panel o bersonau a benodwyd i weithredu fel cadeirydd Pwyllgor Asesu Rhenti Cymru |
4. Aelod cyfreithiol o Dribiwnlys y Gymraeg (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg Aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Dribiwnlys y Gymraeg |
5. Aelod o Banel Dyfarnu Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Panel Dyfarnu Cymru Dirprwy Lywydd Panel Dyfarnu Cymru Aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Banel Dyfarnu Cymru |
6. Aelod o banel cadeirydd cyfreithiol Tribiwnlys Addysg Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru Dirprwy Lywydd Tribiwnlys Addysg Cymru Aelod o banel cadeirydd cyfreithiol Tribiwnlys Addysg Cymru |
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124(3) a (4)(e) a 129(1)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 er mwyn rhagnodi swyddi a ddelir gan bersonau sy’n gymwys i’w penodi i swydd eistedd mewn ymddeoliad. Dim ond i swyddi eistedd mewn ymddeoliad pan mai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw’r awdurdod penodi y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.
Mae’r Tabl yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn rhestru’r swyddi barnwrol rhagnodedig y mae rhaid i berson eu dal neu fod wedi eu dal cyn ymddeol er mwyn ei benodi i’r swydd eistedd mewn ymddeoliad gyfatebol.
Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.