NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124(3) a (4)(e) a 129(1)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 er mwyn rhagnodi swyddi a ddelir gan bersonau sy’n gymwys i’w penodi i swydd eistedd mewn ymddeoliad. Dim ond i swyddi eistedd mewn ymddeoliad pan mai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw’r awdurdod penodi y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.

Mae’r Tabl yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn rhestru’r swyddi barnwrol rhagnodedig y mae rhaid i berson eu dal neu fod wedi eu dal cyn ymddeol er mwyn ei benodi i’r swydd eistedd mewn ymddeoliad gyfatebol.

Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.