Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023

RHAN 3SEFYDLIADAU ÔL-16 ARBENNIG ANNIBYNNOL

Gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

6.—(1Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn wasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol at ddibenion y Rhan hon—

(a)cynllunio a pharatoi addysg a hyfforddiant ar gyfer dysgwyr;

(b)cyflwyno addysg a hyfforddiant i ddysgwyr;

(c)asesu datblygiad a chynnydd dysgwyr;

(d)adrodd ar ddatblygiad a chynnydd dysgwyr;

(e)ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn y sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

(2Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

7.  Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

8.—(1Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.