xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn wasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol at ddibenion y Rhan hon—
(a)cynllunio a pharatoi addysg a hyfforddiant ar gyfer dysgwyr;
(b)cyflwyno addysg a hyfforddiant i ddysgwyr;
(c)asesu datblygiad a chynnydd dysgwyr;
(d)adrodd ar ddatblygiad a chynnydd dysgwyr;
(e)ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn y sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
(2) Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
7. Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
8.—(1) Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.