RHAN 3SEFYDLIADAU ÔL-16 ARBENNIG ANNIBYNNOL
Gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol6
1
Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn wasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol at ddibenion y Rhan hon—
a
cynllunio a pharatoi addysg a hyfforddiant ar gyfer dysgwyr;
b
cyflwyno addysg a hyfforddiant i ddysgwyr;
c
asesu datblygiad a chynnydd dysgwyr;
d
adrodd ar ddatblygiad a chynnydd dysgwyr;
e
ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn y sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
2
Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol7
Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol8
1
Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.