NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”), ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau a gymhwysir i’r symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “annibynnydd” yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fel bod rhaid i berson y rhoddwyd caniatâd iddo iddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, neu y rhoddwyd hawl iddo i breswylio yn y Deyrnas Unedig, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia ac sy’n preswylio gyda cheisydd o dan y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, gael ei drin fel person sy’n ddibynnol ar y ceisydd i gyfrifo hawlogaeth i ddisgownt o ran y dreth gyngor. Mae rheoliad 11 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 4 yn mewnosod categori newydd yn y rhestr o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr at ddiben y meini prawf preswylio a nodir yn rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Mae’r categori newydd yn ymwneud â phersonau y rhoddir caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo, neu bersonau sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, pan fo’r person hwnnw yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 a’i fod wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022. Effaith y diwygiad yw sicrhau nad yw’r personau hynny yn cael eu trin fel rhai nad ydynt yn preswylio fel arfer ym Mhrydain Fawr i benderfynu cymhwystra ceisydd am ostyngiad o ran y dreth gyngor. Mae rheoliad 12 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 29 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig sy’n pennu bod personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn ddosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992 ac ni chaniateir eu cynnwys yng nghynllun awdurdod bilio. Mae’r diwygiad yn dileu’r eithriad nad yw person sy’n wladolyn o wladwriaeth sydd wedi cadarnhau y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol neu wladwriaeth sydd wedi cadarnhau Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop ac sy’n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn cael ei drin fel person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Mae rheoliad 13 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 6 i 9 yn uwchraddio ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo a gaiff person hawlio gostyngiad, ac os felly, swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn gymwys i ddidyniadau annibynyddion (addasiadau a wneir i uchafswm y gostyngiad y gall person ei gael gan ystyried oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd) a’r swm cymwysadwy (y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef er mwyn penderfynu swm y gostyngiad, os oes un, y gall fod modd i’r ceisydd ei gael). Mae nifer o ffigurau eraill hefyd yn cael eu huwchraddio i adlewyrchu newidiadau i hawlogaethau amrywiol eraill. Mae rheoliadau 14 i 16 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn. Mae rheoliad 15 hefyd yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg y Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi’i gyhoeddi ar www.llyw.cymru.