Rheoliad 3
ATODLEN 5Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig 1507 × MIR162 × MON 810 × NK603 ac is-gyfuniadau, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw
Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw
1. At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marciau adnabod unigryw a ganlyn wedi eu pennu ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig 1507 × MIR 162 × MON 810 × NK 603 ac is-gyfuniadau fel a ganlyn—
(a)DAS-Ø15Ø7-1 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ81Ø-6 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig 1507 × MIR162 × MON 810 × NK603;
(b)DAS-Ø15Ø7-1 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ81Ø-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig 1507 × MIR162 × MON 810;
(c)DAS-Ø15Ø7-1 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig 1507 × MIR162 × NK603;
(d)SYN-IR162-4 × MON-ØØ81Ø-6 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MIR162 × MON 810 × NK603;
(e)SYN-IR162-4 × MON-ØØ81Ø-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MIR162 × MON 810.
Awdurdodi
2. Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003, yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—
(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;
(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;
(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.
Labelu
3.—(1) At ddibenion y gofynion labelu yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.
(2) Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.
Y dull canfod
4.—(1) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraff (2) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1.
(2) Mae’r dulliau wedi eu nodi yn—
(a)ar gyfer DAS-Ø15Ø7-1, y ddogfen o’r enw “Event-specific method for the quantitation of maize line TC1507 using real-time PCR”, “Version B”, cyfeirnod “JRC 113269”, dyddiedig 24 Medi 2018;
(b)ar gyfer SYN-IR162-4, y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MIR162 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL08/08VP”, dyddiedig 31 Ionawr 2011;
(c)ar gyfer MON-ØØ81Ø-6, y ddogfen o’r enw “CRL assessment on the validation of an event specific method for the relative quantitation of maize line MON 810 DNA using real-time PCR as carried out by Federal Institute for Risk Assessment (BfR)”, cyfeirnod “CRL-VL-25/04VR”, dyddiedig 10 Mawrth 2006;
(d)ar gyfer MON-ØØ6Ø3-6, y ddogfen o’r enw “Event-specific method for the quantitation of maize line NK603 using real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL27/04VP”, dyddiedig 10 Ionawr 2005.
(3) Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the In-house Validation of a DNA Extraction Method from Ground Maize Seeds and Validated DNA Extraction Method”, cyfeirnod “EURL-VL-02/14XP”, dyddiedig 10 Ebrill 2018.
(4) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003—
(a)gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio a ganlyn drwy Gyd-ganolfan Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd()—
(i)ERM®-BF418 (ar gyfer DAS-Ø15Ø7);
(ii)ERM®-BF413 (ar gyfer MON-ØØ81Ø-6);
(iii)ERM®-BF415 (ar gyfer MON-ØØ6Ø3-6);
(b)gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio AOCS 1208-A3 (ar gyfer SYN-IR162-4) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America().
Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol
5.—(1) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi’r indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, rhif cyfeirnod “RP1184” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd() ar 5 Gorffennaf 2021.
(2) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.
Deiliad yr awdurdodiad
6.—(1) Deiliad yr awdurdodiad yw Corteva Agriscience LLC, 9330 Zionsville Road, Indianapolis, Indiana 46268-1054, Unol Daleithiau America.
(2) Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Corteva Agriscience UK Limited, Cpc2 Capital Park, Fulbourn, Caergrawnt, CB21 5XE, Y Deyrnas Unedig.