xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 29 Mawrth 2023—
(a)adran 23(3) (dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig);
(b)Atodlen 2 (trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau).
Mae erthygl 3(1) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2023—
(a)adran 1 (trosolwg o’r Ddeddf hon);
(b)adran 2 (ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd);
(c)adran 3 (pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys);
(d)adran 5 (darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiad);
(e)adran 6 (cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5);
(f)adran 7 (Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adrodd);
(g)adran 8 (cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7);
(h)adran 9 (cyfrinachedd);
(i)adran 10 (canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru);
(j)adran 13 (amcan cyffredinol);
(k)adran 14 (ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisi);
(l)adran 15 (sylwadau i gyrff cyhoeddus);
(m)adran 16 (gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethau);
(n)adran 17 (dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y Dinesydd);
(o)adran 18 (dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd);
(p)adran 20 (cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIG);
(q)adran 23(1) a (2) (dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig);
(r)adran 27 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
(s)paragraffau 6 (penodi’r aelod cyswllt), 7 (telerau aelodaeth gyswllt etc.) ac 8 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol) o Atodlen 1 (Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru);
(t)Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
Mae erthygl 3(2) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2023, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes wedi eu cychwyn—
(a)adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd);
(b)adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).