(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gwneud darpariaeth ynghylch hyd y diwrnod ysgol, sydd fel arfer yn cael ei rannu yn ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol, ac i ysgolion gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniad o “ysgol” yn rheoliad 3 o Reoliadau 2003, i adlewyrchu diwygiadau a wnaed i adran 342 o Ddeddf Addysg 1996(1) gan adran 57 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(2). Bydd Rheoliadau 2003 felly yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol.
Maent yn diwygio rheoliad 4(8) o Reoliadau 2003 i leihau isafswm nifer y sesiynau ysgol y mae rhaid eu cynnal yn y flwyddyn ysgol 2022–2023 o 380 i 376. Mae hyn yn adlewyrchu’r gwyliau banc ychwanegol ar 19 Medi 2022 ar gyfer Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ac ar 8 Mai 2023 i nodi achlysur Coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III.
Maent hefyd yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2003 i ddarparu i ddim mwy na dwy sesiwn ym mhob un o’r blynyddoedd ysgol 2022–2023, 2023–2024 a 2024–2025 gyfrif fel sesiynau pan gyfarfu’r ysgol, os yw’r sesiynau hynny wedi eu neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i unrhyw un neu ragor o’r materion a ragnodir.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Deddfwriaeth a Llywodraethiant, Yr Is-Adran Effeithiolrwydd Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.