NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (O.S. 2017/113 (Cy. 39)) yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi annomestig a gyflwynir gan awdurdodau bilio yng Nghymru neu ar eu rhan.

Mae Atodlen 2 i Reoliadau 2017 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn y nodiadau esboniadol y mae rhaid iddynt fynd gyda hysbysiad galw am dalu.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 o ganlyniad i’r ailbrisio ardrethu annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2023 a’r rheolau rhagnodedig ar gyfer symiau a godir sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/1350 (Cy. 272)).

Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.