Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 20209
1
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 20209 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
a
hepgorer y diffiniad o “Cyngor Iechyd Cymuned”, a
b
yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “Corff Llais y Dinesydd” (“Citizen Voice Body”) yw Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru, a sefydlwyd o dan adran 12(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020;
3
Yn rheoliad 7(1)(h) (ymgynghori ar asesiadau o anghenion fferyllol), yn lle “unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ei ardal” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”.
4
Yn Atodlen 3—
a
ym mharagraff 4(2)(c) (hysbysu ynghylch bwriad i wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ardaloedd rheoledig), yn lle “y Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer yr ardal” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”, a
b
ym mharagraff 9(1)(e) (personau a chyrff sydd i’w hysbysu), yn lle “unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned sy’n gwasanaethu ardal y Bwrdd Iechyd Lleol” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”.
5
Yn Atodlen 5—
a
ym mharagraff 2(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
b
hepgorer paragraff 2(d) (corffori darpariaethau),
c
ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
2A
Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i fferyllydd GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).
d
hepgorer paragraff 28(3)(a)(vii) (llywodraethu clinigol),
e
ym mharagraff 28(3)(a)(viii) (llywodraethu clinigol) hepgorer “a”,
f
ym mharagraff 28(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol), ar ôl “Deddf Cydraddoldeb 2010,” mewnosoder “a”,
g
ar ôl paragraff 28(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol) mewnosoder—
x
gofyniad bod rhaid i’r fferyllydd GIG roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020),
6
Yn Atodlen 6—
a
ym mharagraff 1(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
b
hepgorer paragraff 1(d) (corffori darpariaethau),
c
ar ôl paragraff 1 mewnosoder—
1A
Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).
d
hepgorer paragraff 17(3)(a)(vii) (llywodraethu clinigol),
e
ym mharagraff 17(3)(a)(viii) (llywodraethu clinigol) hepgorer “a”,
f
ym mharagraff 17(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol), ar ôl “Deddf Cydraddoldeb 2010,” mewnosoder “a”,
g
ar ôl paragraff 17(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol) mewnosoder—
x
gofyniad bod rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020),
7
Yn Atodlen 7—
a
ym mharagraff 2(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
b
hepgorer paragraff 2(d) (corffori darpariaethau),
c
ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
2A
Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i feddyg sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).