- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a)hepgorer y diffiniad o “Cyngor Iechyd Cymuned”, a
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “Corff Llais y Dinesydd” (“Citizen Voice Body”) yw Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru, a sefydlwyd o dan adran 12(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020;”.
(3) Yn rheoliad 7(1)(h) (ymgynghori ar asesiadau o anghenion fferyllol), yn lle “unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ei ardal” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”.
(4) Yn Atodlen 3—
(a)ym mharagraff 4(2)(c) (hysbysu ynghylch bwriad i wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ardaloedd rheoledig), yn lle “y Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer yr ardal” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”, a
(b)ym mharagraff 9(1)(e) (personau a chyrff sydd i’w hysbysu), yn lle “unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned sy’n gwasanaethu ardal y Bwrdd Iechyd Lleol” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”.
(5) Yn Atodlen 5—
(a)ym mharagraff 2(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
(b)hepgorer paragraff 2(d) (corffori darpariaethau),
(c)ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
“2A. Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i fferyllydd GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).”,
(d)hepgorer paragraff 28(3)(a)(vii) (llywodraethu clinigol),
(e)ym mharagraff 28(3)(a)(viii) (llywodraethu clinigol) hepgorer “a”,
(f)ym mharagraff 28(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol), ar ôl “Deddf Cydraddoldeb 2010,” mewnosoder “a”,
(g)ar ôl paragraff 28(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol) mewnosoder—
“(x)gofyniad bod rhaid i’r fferyllydd GIG roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020),”.
(6) Yn Atodlen 6—
(a)ym mharagraff 1(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
(b)hepgorer paragraff 1(d) (corffori darpariaethau),
(c)ar ôl paragraff 1 mewnosoder—
“1A. Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).”,
(d)hepgorer paragraff 17(3)(a)(vii) (llywodraethu clinigol),
(e)ym mharagraff 17(3)(a)(viii) (llywodraethu clinigol) hepgorer “a”,
(f)ym mharagraff 17(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol), ar ôl “Deddf Cydraddoldeb 2010,” mewnosoder “a”,
(g)ar ôl paragraff 17(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol) mewnosoder—
“(x)gofyniad bod rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020),”.
(7) Yn Atodlen 7—
(a)ym mharagraff 2(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
(b)hepgorer paragraff 2(d) (corffori darpariaethau),
(c)ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
“2A. Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i feddyg sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).”
O.S. 2020/1073 (Cy. 241), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: