(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 28 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (dsc 1) (“Deddf 2020”).
Sefydlodd Deddf 2020 Gorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“y Corff”). Amcan cyffredinol y Corff, wrth arfer ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae Deddf 2020 hefyd yn darparu ar gyfer dileu’r Cynghorau Iechyd Cymuned.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol, atodol a deilliadol i is-ddeddfwriaeth, ac yn darparu ar gyfer dirymu is-ddeddfwriaeth, er mwyn adlewyrchu bod y Corff wedi ei sefydlu a bod ei swyddogaethau o sylwedd wedi eu cychwyn, a bod y Cynghorau Iechyd Cymuned wedi eu dileu, fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.