Diwygiadau i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 20152

1

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 20152 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 4 (ymgysylltu â’r sector preifat a’r trydydd sector)—

a

yn lle’r pennawd, rhodder—

4

Ymgysylltu â’r sector preifat, y trydydd sector a chyrff cyhoeddus

b

ym mharagraff (1), yn lle “neu unrhyw sefydliad trydydd sector sy’n ymwneud â, neu sy’n ymddiddori mewn,” rhodder “, unrhyw sefydliad trydydd sector neu unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â” ac o flaen y geiriau “i’r boblogaeth leol” mewnosoder “, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol,”;

c

yn lle paragraff (2), rhodder—

2

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw corff (pa un a yw’n gorfforedig neu’n anghorfforedig) sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus. At ddiben y diffiniad hwn, mae swyddogaeth gyhoeddus yn swyddogaeth sy’n swyddogaeth o natur gyhoeddus at ddibenion Deddf Hawliau Dynol 19983;

  • mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf4..