(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau poblogaeth.
Mae rheoliad 4 o’r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid i gyrff cyfrifol, wrth gynnal asesiad poblogaeth, ymgysylltu â sefydliadau sector preifat penodol neu sefydliadau trydydd sector penodol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau fel bod rhaid i gyrff cyfrifol ymgysylltu hefyd ag unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, i’r boblogaeth leol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod diffiniadau perthnasol at y dibenion hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.