(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o’r Prif Reoliadau (dehongli) drwy—
ddiffinio “Awdurdod Iechyd Arbennig” a mewnosod “Awdurdod Iechyd Arbennig” yn y diffiniad o “corff GIG Cymru”, fel y bydd y Prif Reoliadau yn gymwys i Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru ond fel na fyddant yn gymwys i Awdurdodau Iechyd Arbennig trawsffiniol;
mewnosod diffiniad o “cynrychiolydd”.
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 3 o’r Prif Reoliadau (egwyddorion cyffredinol ar gyfer trin ac ymchwilio i bryderon) i’w gwneud yn glir na chaiff cyrff cyfrifol ddarparu data personol i berson nad yw’n destun y data (oni bai bod y person hwnnw yn gynrychiolydd i destun y data).
Mae rheoliad 2(4) yn gwneud diwygiadau technegol i reoliad 12 o’r Prif Reoliadau (personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon) i egluro bod rheoliad 12(1)(a) yn gyfeiriad at glaf a bod cyfeiriadau at glaf yn cynnwys cynrychiolydd i’r claf hwnnw.
Mae rheoliad 2(5) yn gwneud diwygiadau i reoliad 14 o’r Prif Reoliadau (materion a phryderon a eithrir rhag eu hystyried o dan y trefniadau)—
fel y caiff y corff GIG Cymru, pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi argymell bod y corff GIG Cymru yn cynnig ffurf o iawn o dan Ran 6 o’r Prif Reoliadau, ymgymryd ag ymchwiliad pellach i’r pryder o dan y Prif Reoliadau dim ond at ddiben penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli neu a all fodoli ac i gynnig ffurf o iawn yn unol ag argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
fel bod unrhyw bryder a ddatrysir, erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y’i hysbyswyd, er boddhad i’r person a’i hysbysodd wedi ei eithrio o weddill y Prif Reoliadau (cyn y diwygiad hwn, nid oedd hyn ond yn gymwys i bryderon a hysbyswyd ar lafar);
fel bod y cyfeiriad at “achos sifil” yn is-baragraff (ff) yn cynnwys yn benodol y cyfnod cyn gweithredu ar gyfer yr achos hwnnw;
fel bod cymhwysiad y Prif Reoliadau i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”) wedi ei gyfyngu i ddarparu gofal iechyd gan AaGIC.
Mae rheoliad 2(6) yn gwneud diwygiad technegol i reoliad 25 o’r Prif Reoliadau (dyletswydd i ystyried iawn). Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn glir na chaniateir gwneud cynnig o iawn ariannol o dan reoliad 25 o’r Prif Reoliadau pan fydd y corff GIG Cymru yn ystyried bod gwerth yr atebolrwydd cymwys yn fwy na £25,000.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.