Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 20112.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1)—
(a)
yn y diffiniad o “corff GIG Cymru”—
(i)
hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (a);
(ii)
“neu
(c)
Awdurdod Iechyd Arbennig;”;
(b)
“ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd gan orchymyn a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006);
mae i “cynrychiolydd” (“representative”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12(2);.”.
(3)
Yn rheoliad 3—
(a)
daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b)
“(2)
Wrth gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, ni chaiff corff cyfrifol ddatgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, oni bai bod y person hwnnw yn gynrychiolydd i destun y data.
(3)
Ym mharagraff (2), mae i “testun y data” a “data personol” yr un ystyr â “data subject” a “personal data” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno).”
(4)
Yn rheoliad 12—
(a)
ym mharagraff (1)(a) yn lle “person sy’n cael, neu sydd wedi cael, gwasanaethau gan gorff cyfrifol” rhodder “claf”;
(b)
ym mharagraff (9), ar ôl “iawn” mewnosoder “, neu at glaf,”.
(5)
Yn rheoliad 14(1)—
(a)
yn is-baragraff (c), ar ôl “Cymru” mewnosoder “, oni bai bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi argymell bod y corff GIG Cymru yn cynnig ffurf o iawn o dan Ran 6 o’r Rheoliadau hyn, ac yn yr achos hwnnw, dim ond at ddiben penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli neu a all fodoli, ac i gynnig ffurf o iawn yn unol ag argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y caiff y corff GIG Cymru ymgymryd ag ymchwiliad pellach i’r pryder o dan y Rheoliadau hyn;”;
(b)
yn is-baragraff (dd) hepgorer y geiriau o’r cyfeiriad cyntaf at “a” hyd at “ac”;
(c)
yn is-baragraff (ff), ar ôl “sifil” mewnosoder “(gan gynnwys y cyfnod cyn gweithredu ar gyfer yr achos hwnnw)”;
(d)
hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (ff);
(e)
“; neu
(ng)
pan mai Addysg a Gwella Iechyd Cymru yw’r corff cyfrifol, pryder nad yw’n ymwneud â darparu gofal iechyd gan y corff hwnnw.”
(6)
Yn rheoliad 25(2), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 29(2),”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o’r Prif Reoliadau (dehongli) drwy—
ddiffinio “Awdurdod Iechyd Arbennig” a mewnosod “Awdurdod Iechyd Arbennig” yn y diffiniad o “corff GIG Cymru”, fel y bydd y Prif Reoliadau yn gymwys i Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru ond fel na fyddant yn gymwys i Awdurdodau Iechyd Arbennig trawsffiniol;
mewnosod diffiniad o “cynrychiolydd”.
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 3 o’r Prif Reoliadau (egwyddorion cyffredinol ar gyfer trin ac ymchwilio i bryderon) i’w gwneud yn glir na chaiff cyrff cyfrifol ddarparu data personol i berson nad yw’n destun y data (oni bai bod y person hwnnw yn gynrychiolydd i destun y data).
Mae rheoliad 2(4) yn gwneud diwygiadau technegol i reoliad 12 o’r Prif Reoliadau (personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon) i egluro bod rheoliad 12(1)(a) yn gyfeiriad at glaf a bod cyfeiriadau at glaf yn cynnwys cynrychiolydd i’r claf hwnnw.
Mae rheoliad 2(5) yn gwneud diwygiadau i reoliad 14 o’r Prif Reoliadau (materion a phryderon a eithrir rhag eu hystyried o dan y trefniadau)—
fel y caiff y corff GIG Cymru, pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi argymell bod y corff GIG Cymru yn cynnig ffurf o iawn o dan Ran 6 o’r Prif Reoliadau, ymgymryd ag ymchwiliad pellach i’r pryder o dan y Prif Reoliadau dim ond at ddiben penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli neu a all fodoli ac i gynnig ffurf o iawn yn unol ag argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
fel bod unrhyw bryder a ddatrysir, erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y’i hysbyswyd, er boddhad i’r person a’i hysbysodd wedi ei eithrio o weddill y Prif Reoliadau (cyn y diwygiad hwn, nid oedd hyn ond yn gymwys i bryderon a hysbyswyd ar lafar);
fel bod y cyfeiriad at “achos sifil” yn is-baragraff (ff) yn cynnwys yn benodol y cyfnod cyn gweithredu ar gyfer yr achos hwnnw;
fel bod cymhwysiad y Prif Reoliadau i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”) wedi ei gyfyngu i ddarparu gofal iechyd gan AaGIC.
Mae rheoliad 2(6) yn gwneud diwygiad technegol i reoliad 25 o’r Prif Reoliadau (dyletswydd i ystyried iawn). Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn glir na chaniateir gwneud cynnig o iawn ariannol o dan reoliad 25 o’r Prif Reoliadau pan fydd y corff GIG Cymru yn ystyried bod gwerth yr atebolrwydd cymwys yn fwy na £25,000.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.