Cofnodion9

1

Rhaid i’r corff cyfrifol gadw cofnod ysgrifenedig ar gyfer pob canlyniad andwyol hysbysadwy y dilynir y weithdrefn gonestrwydd mewn cysylltiad ag ef.

2

Rhaid i’r cofnod sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys pob dogfen a phob darn o ohebiaeth sy’n ymwneud â’r canlyniad andwyol hysbysadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i—

a

cofnodion o hysbysiadau a roddir o dan reoliadau 4, 5 a 6,

b

cofnodion o bob ymgais i gysylltu â’r person perthnasol,

c

unrhyw benderfyniad gan y person perthnasol nad yw am i neb gysylltu ag ef mewn perthynas â’r weithdrefn gonestrwydd, a

d

pob dogfen sy’n ymwneud â’r ymchwiliad i’r canlyniad andwyol hysbysadwy a’r adolygiad o’r canlyniad andwyol hysbysadwy a gynhelir gan y corff cyfrifol, gan gynnwys unrhyw ymatebion neu adroddiadau interim a ddyroddir gan y corff cyfrifol o dan reoliad 24, 26 neu 31 o Reoliadau 2011.