Hyfforddiant a chymorth8

1

Rhaid i’r corff cyfrifol sicrhau bod yr aelodau o staff a bennir ym mharagraff (2) yn cael hyfforddiant ac arweiniad perthnasol ynghylch y weithdrefn gonestrwydd.

2

At ddibenion paragraff (1), yr aelodau o staff yw—

a

y rheini sy’n ymwneud â darparu gofal iechyd;

b

y rheini sy’n ymwneud ag ymchwilio i ganlyniadau andwyol hysbysadwy neu eu rheoli;

c

unrhyw aelodau perthnasol eraill o staff sy’n ymwneud â chyflawni neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd.

3

Rhaid i’r corff cyfrifol ddarparu i aelod o staff sy’n ymwneud â chanlyniad andwyol hysbysadwy fanylion unrhyw wasanaethau y mae’r corff cyfrifol yn ymwybodol ohonynt a all roi cynhorthwy neu gymorth i’r aelod hwnnw o staff, gan ystyried—

a

yr amgylchiadau sy’n ymwneud â’r canlyniad andwyol hysbysadwy, a

b

anghenion yr aelod o staff.

4

Yn y rheoliad hwn, “aelod o staff” yw unrhyw berson sy’n gweithio i gorff GIG, pa un ai o dan gontract cyflogaeth, contract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr, neu weithwyr asiantaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “agency workers” yn rheoliad 3 o Reoliadau Gweithwyr Asiantaeth 20106) sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd corff GIG.