Cyfathrebu â’r person perthnasol7
1
Rhaid i’r corff cyfrifol gymryd camau rhesymol i ganfod y dull cyfathrebu a ffefrir gan y person perthnasol a, phan fo’n rhesymol ymarferol, gyfathrebu â’r person perthnasol gan ddefnyddio’r dull hwn.
2
Rhaid i’r corff cyfrifol gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw gyfathrebu â’r person perthnasol yn digwydd mewn modd y gall y person perthnasol ei ddeall.
3
Os na all y corff cyfrifol gysylltu â’r person perthnasol, ar ôl cymryd camau rhesymol i wneud hynny, i roi hysbysiad o dan unrhyw un neu ragor o reoliadau 4, 5 neu 6, neu os yw’r person perthnasol yn gwrthod cyfathrebu â’r corff cyfrifol—
a
rhaid i’r corff cyfrifol sicrhau bod y cofnod a gedwir o dan reoliad 9 yn cynnwys gwybodaeth am bob ymgais a wnaed i gysylltu â’r person perthnasol neu i gyfathrebu ag ef, a
b
mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn peidio â bod yn gymwys.