Hysbysiad ysgrifenedig5
1
Rhaid i’r corff cyfrifol hysbysu’r person perthnasol yn ysgrifenedig yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Rhaid i’r corff cyfrifol gymryd pob cam rhesymol i anfon yr hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (1) at y person perthnasol o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae’r corff cyfrifol yn hysbysu’r person perthnasol o dan reoliad 4(1).
3
Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (1) gynnwys—
a
disgrifiad o unrhyw ystyriaeth gychwynnol o’r canlyniad andwyol hysbysadwy,
b
ymddiheuriad, ac
c
yr wybodaeth a ddarperir o dan reoliad 4(3)(b), 4(3)(d), 4(3)(e), 4(3)(f) ac, os yw’n berthnasol, 4(3)(g).