Hysbysiad uniongyrchol4
1
Wrth ddod yn ymwybodol gyntaf o ganlyniad andwyol hysbysadwy, rhaid i gorff cyfrifol hysbysu’r person perthnasol yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Rhaid gwneud hysbysiad o dan baragraff (1) drwy ddefnyddio dull cyfathrebu uniongyrchol.
3
Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys—
a
disgrifiad o amgylchiadau’r canlyniad andwyol hysbysadwy, i’r graddau y mae’r corff cyfrifol yn ymwybodol o’r ffeithiau ar y dyddiad y darperir yr hysbysiad i’r person perthnasol,
b
y rheswm pam y mae’r corff cyfrifol yn ystyried bod yr amodau a nodir yn adran 3(2) a (3) o’r Ddeddf wedi eu bodloni,
c
ymddiheuriad,
d
enw a manylion cyswllt y person yn y corff cyfrifol sydd wedi ei enwebu’n bwynt cyswllt ar gyfer y person perthnasol mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd,
e
esboniad o’r camau y bydd y corff cyfrifol neu’r darparwr yn eu cymryd, ac ymholiadau pellach y bydd y corff cyfrifol neu’r darparwr yn eu cynnal, i ymchwilio i amgylchiadau’r canlyniad andwyol hysbysadwy, gan gynnwys unrhyw gamau sydd i’w cymryd o dan Reoliadau 2011,
f
manylion unrhyw wasanaethau neu unrhyw gymorth y mae’r corff cyfrifol yn ystyried yn rhesymol y gallant roi cynhorthwy i’r person perthnasol, gan ystyried anghenion y person perthnasol, ac
g
pan fo’r hysbysiad o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn hwyrach na 30 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i’r corff cyfrifol ddod yn ymwybodol gyntaf o’r canlyniad andwyol hysbysadwy, esboniad o’r rheswm dros yr oedi.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfathrebu uniongyrchol” yw cyfathrebu sy’n digwydd drwy alwad ffôn, drwy gyfathrebu clyweledol, neu drwy gyfarfod wyneb yn wyneb.