- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Wrth ddod yn ymwybodol gyntaf o ganlyniad andwyol hysbysadwy, rhaid i gorff cyfrifol hysbysu’r person perthnasol yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid gwneud hysbysiad o dan baragraff (1) drwy ddefnyddio dull cyfathrebu uniongyrchol.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)disgrifiad o amgylchiadau’r canlyniad andwyol hysbysadwy, i’r graddau y mae’r corff cyfrifol yn ymwybodol o’r ffeithiau ar y dyddiad y darperir yr hysbysiad i’r person perthnasol,
(b)y rheswm pam y mae’r corff cyfrifol yn ystyried bod yr amodau a nodir yn adran 3(2) a (3) o’r Ddeddf wedi eu bodloni,
(c)ymddiheuriad,
(d)enw a manylion cyswllt y person yn y corff cyfrifol sydd wedi ei enwebu’n bwynt cyswllt ar gyfer y person perthnasol mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd,
(e)esboniad o’r camau y bydd y corff cyfrifol neu’r darparwr yn eu cymryd, ac ymholiadau pellach y bydd y corff cyfrifol neu’r darparwr yn eu cynnal, i ymchwilio i amgylchiadau’r canlyniad andwyol hysbysadwy, gan gynnwys unrhyw gamau sydd i’w cymryd o dan Reoliadau 2011,
(f)manylion unrhyw wasanaethau neu unrhyw gymorth y mae’r corff cyfrifol yn ystyried yn rhesymol y gallant roi cynhorthwy i’r person perthnasol, gan ystyried anghenion y person perthnasol, ac
(g)pan fo’r hysbysiad o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn hwyrach na 30 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i’r corff cyfrifol ddod yn ymwybodol gyntaf o’r canlyniad andwyol hysbysadwy, esboniad o’r rheswm dros yr oedi.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfathrebu uniongyrchol” yw cyfathrebu sy’n digwydd drwy alwad ffôn, drwy gyfathrebu clyweledol, neu drwy gyfarfod wyneb yn wyneb.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: