Person perthnasol3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “person perthnasol” yw—
a
y defnyddiwr gwasanaeth, neu
b
o ran y defnyddiwr gwasanaeth—
i
os yw wedi marw,
ii
os yw’n 16 oed neu drosodd ac nad yw’r galluedd ganddo (o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 20055) mewn perthynas â’r mater,
iii
os yw o dan 16 oed ac nad yw’n gymwys i wneud penderfyniad mewn perthynas â’i ofal neu ei driniaeth, neu
iv
os yw wedi rhoi gwybod i’r corff cyfrifol ei fod wedi enwebu person i weithredu ar ei ran,
person sy’n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw.